Bangor is y Coed
Hafan > Eglwysi > Bangor is y Coed
Bangor is y Coed
St. Dunawd
Cyfeirnod Ordnance Survey :
SJ 388454
Rhestredig:
Gradd II*
Sir cyn1974 :
Fflint (ar wahân)
Sir 1974 i 1996 :
Clwyd
Sir as ôl - 1996 :
Wrecsam
Mae Bangor-is-y-Coed ym Maelor Saesneg, yr hen ran ar wahân o Sir y Fflint hanesyddol. Roedd y plwyf yn cynnwys trefgordd Sir y Fflint, Bangor a threfgorddau Sir Ddinbych sef Eyton, Royton, Sesswick a Pickhill. At ddibenion hanes teulu, ystyrir Bangor yn gyffredinol fel plwyf yn Sir y Fflint.
Dechreua rhestr rheithoriaid hysbys Bangor yn 1300, a chredir fod yr adeilad presennol yn dyddio o tua'r un amser; er bod eglwys eisoes wedi bod ar y safle ers efallai 600 neu 700 mlynedd. Cafodd ei adfer a'i ailadeiladu'n helaeth rhwng 1723 a 1727. Cafodd ei adfer eto yn 1832, a'i addasu ymhellach ym 1877.
Mae yr eglwys wedi ei chysegru i Dunawd Sant, yr hwn oedd Abad cyntaf y fynachlog ym Mangor ; ond y mae peth tystiolaeth fod cysegriad cynharach i Ddeiniol Sant.
• • •
Am wybodaeth hanes teulu am yr eglwys a'r plwyf, ewch i dudalen GenUKI Bangor is y Coed.
