Amdanom Ni
Cartref > Amdanom Ni
Amdanom ni.
Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd yn 1980 i hybu astudiaeth o achyddiaeth a hanes teuluol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, a darparu fforwm i bobl sydd â diddordeb yn y pynciau hyn i gyfarfod, ac i helpu ei gilydd.
Diddymwyd Clwyd fel sir gweinyddol ar 31ain Mawrth 1996, ac ar yr un amser fe sefydlwyd pedwar sir unedol newydd, sef Sir Fflint, Sir Ddinbych, Bwrdeistef Wrecsam, a Bwrdeistref Conwy.
Fodd bynnag, mae ffiniau Sir y Fflint a Sir Ddinbych "newydd" ynr dra gwahanol i rai'r siroedd hanesyddol (cyn 1974) o'r un enw. Heddiw mae Clwyd yn bodoli fel sir seremonïol yn unig.
Penderfynodd pwyllgor Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd y dylai’r Gymdeithas barhau i gwmpasu’r ardal o ogledd-ddwyrain Cymru a oedd yn cynnwys Clwyd sydd bellach wedi darfod – h.y. siroedd hanesyddol Sir y Fflint, Sir Ddinbych a rhan Edeyrnion o Sir Feirionnydd.
Ym mis Mehefin 2004 agorodd y gymdeithas Ganolfan Adnoddau i aelodau yng Nghefn Mawr, ger Ruabon,Wrecsam.
Yn 2022 symudodd y gymdeithas i ystafell gwahanol, ond yn yr un adeilad.
Cyhoeddir cylchgrawn y Gymdeithas, “Hel Achau”, bedair gwaith y flwyddyn.
Mae’r Gymdeithas yn cynnal cyfarfodydd misol mewn gwahanol leoliadau ledled gogledd-ddwyrain Cymru. Nid oes tâl mynediad, ac mae’r cyfarfodydd yn agored i aelodau’r Gymdeithas, ac hefyd i’r rhai nad ydynt yn aelodau.
Mae'r Gymdeithas yn aelod o “Cymdeithasau Hanes Teuluoedd Undebol Cymru” a “Ffederasiwn Cymdeithasau Hanes Teuluol”.
Swyddogion
| Cadeirydd: | Ms. Joy Thomas | |
| Is Gaderiydd: | Mrs Jennifer Bland-Roberts | |
| Ysgrifenydd: | Ms. Gillian Jones | |
| Ysgrifennydd Aelodaeth: | Mrs Joan Jones | |
| Trysorydd: | Mr Keith Jones | |
| Golygydd: | Mr Peter Chadwick |
AMCANION
- Hybu astudio achyddiaeth a hanes teulu yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a darparu fforwm i bobl sydd â diddordeb yn y pynciau hyn i gwrdd, ac i helpu ei gilydd.
- Cynhyrchu cylchgrawn yn rheolaidd.
- Darparu rhaglen addysgol o ddarlithoedd, ymweliadau a gweithgareddau eraill sy'n gysylltiedig â phynciau o ddiddordeb i'r Gymdeithas.
- Ceisio, trawsgrifio, mynegeio, a lle bynnag y bo modd, cyhoeddi neu sicrhau bod deunydd ar gael sy'n berthnasol i fuddiannau'r Gymdeithas.
- Rhoi arweiniad mewn ymchwil hanes teulu i’r rhai sydd â chysylltiadau teuluol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond sydd bellach yn byw yn rhywle arall.
CYFEIRIAD :-
Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd,
Uned C15, Llawr 1af,
Community Enterprise Centre,
Well Street,
Cefn Mawr,
WRECSAM,
Cymru.
LL14 3YE
Rhif Ffôn :- 01978 822305 (Bydd peiriant ateb ar y ffôn, - gadewch neges, a ddaw rhywun yn dod yn ôl yn fuan.)
